Croeso i SenCom
Croeso i'r Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom). Rydym yn wasanaeth ar y cyd sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr yn y meysydd amhariad ar y golwg, amhariad amlsynhwyraidd, byddardod, ac anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sydd yn ein cynnal ac rydym yn gweithio'n rhanbarthol ar gyfer Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar.
