Beth yw'r gwahaniaeth rhwng lleferydd, iaith a chyfathrebu?
- Mae lleferydd yn golygu dweud seiniau lleferydd, siarad â llais clir a siarad heb oedi neu ailadrodd gormod, fel bod pobl yn eich deall.
- Mae iaith yn golygu deall beth mae eraill yn ei ddweud yn ogystal â defnyddio'r geiriau a'r brawddegau cywir i ddweud beth rydych chi'n ei olygu.
- Mae cyfathrebu yn golygu defnyddio a dehongli iaith a chyfathrebu heb eiriau, fel ystumiau a mynegiant wyneb yn ogystal â gwrando ar eraill a chymryd tro.
Ble alla i gael mwy o wybodaeth am ddatblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu?
Mae plant a phobl ifanc yn datblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ar gyflymder gwahanol. Wrth wybod y camau nodweddiadol, gall helpu i adnabod heriau ac anawsterau yn gynnar. Dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy:
- Dysgu siarad: oedrannau a chyfnodau 0-5 oed(opens in new tab)
- Ages and stages - Speech and Language UK: Changing young lives (Saesneg)(opens in new tab)
Beth yw Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu (SLCN)?
Mae SLCN (anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau mewn un neu fwy o feysydd cyfathrebu fel:
- talu sylw a gwrando
- deall iaith
- defnyddio iaith
- chwarae a rhyngweithio
- sgiliau cymdeithasol
- lleferydd
Sut alla i gael gwybod mwy am gymorth ComIT?
Siaradwch â'r athro dosbarth a/neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) i gael gwybod mwy am y cymorth y gallech chi neu'ch plentyn fod yn ei gael gan ComIT.
Gellir cysylltu â ComIT yn uniongyrchol hefyd drwy anfon e-bost i: sencom@torfaen.gov.uk
Ble alla i gael gwybod mwy am Therapi Iaith a Lleferydd?
Mae rhai plant a phobl ifanc y cydnabyddir bod ganddynt anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu, angen gwasanaethau arbenigol. Gall Therapyddion Iaith a Lleferydd BIPAB gynnal asesiad ac ymyrraeth arbenigol. Dysgwch fwy yma: Gwasanaethau Plant – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan(opens in new tab)
A yw ComIT yr un peth â Therapi Iaith a Lleferydd?
Na - Mae ComIT yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd BIPAB ac weithiau bydd yn cefnogi eich targedau therapi chi neu eich plentyn yn yr ysgol/coleg, ar gais therapydd iaith a llefer
