Rydym yn falch i rannu rhywfaint o'r adborth cadarnhaol a gawsom gan deuluoedd yr ydym wedi'u cefnogi:
Roedd y gefnogaeth a gawsom gan y Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu yn eithriadol. Mae sgiliau lleferydd ac iaith fy mhlentyn wedi gwella'n sylweddol, ac mae bellach yn fwy hyderus wrth fynegi ei hun. Roedd y tîm bob amser ar gael i ateb ein cwestiynau a rhoi arweiniad.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar wedi bod yn newid sylweddol i'n myfyrwyr sy’n byw â cholled clyw. Mae Athrawon y Byddar a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy, i helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn. Mae'r hyfforddiant a'r adnoddau a ddarperir i'n staff hefyd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol.
Mae'r Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ym mywyd ein plentyn. Gweithiodd yr arbenigwyr sefydlu a symudedd yn agos gyda'n plentyn i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer byw'n annibynnol. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r arbenigedd a roddir gan y tîm.
Mae SenCom wedi bod yn achubiaeth i'n teulu. Mae'r gefnogaeth a'r arweiniad a gawsom wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn natblygiad ein plentyn.
Mae'r athrawon arbenigol yn SenCom yn anhygoel. Maent wedi helpu ein plentyn i fagu hyder a gwella’i sgiliau cyfathrebu.
Rydym mor ddiolchgar am y cynllun cymorth personol a greodd SenCom ar gyfer ein plentyn. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth yn ei brofiad dysgu.
Mae SenCom wedi bod yn allweddol yn fy llwyddiant academaidd. Mae ymdrechion y timau arbenigol ar y cyd wedi sicrhau fy mod wedi cael y gefnogaeth oedd ei hangen i oresgyn fy heriau. Rwyf yn fwy hyderus erbyn hyn ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol.
Mae Listen Up yn grŵp gwych sy’n galluogi i blant weld plant eraill sy’n fyddar a dod i’w hadnabod. Mae fy mhlentyn mewn ysgol brif ffrwd felly nid yw'n cael cyfle i fod yng nghwmni plant eraill sy’n fyddar, felly mae'n wych iddi gael cyfle i fod gydag eraill sy'n ei deall. Heb y grŵp ni fyddai fy mhlentyn yn gweld nac yn siarad ag eraill sydd â Mewnblaniad Cochlear. Nid oes rhaid iddi boeni am orfod esbonio ei bod hi wedi methu rhywbeth neu ofyn eto. Mae e wedi helpu ei hyder yn fawr iawn ac mae hi wrth ei bodd bod Athrawon plant b/Byddar yn gofyn iddi ba weithgareddau fyddai'n dda a’i bod hi’n gallu helpu aelodau iau o'r grŵp
Mae pobl hyfryd yn Listen up ac mae pawb yn garedig. Mae yna lawer o weithgareddau, ac fe wnes i fwynhau gwneud breichledau cyfeillgarwch a choginio. Mae yna grwpiau o wahanol oedrannau ac rwy'n hoffi helpu'r plant iau
Mae wedi bod yn hyfryd gweld hyder fy mhlentyn yn tyfu yn ystod bob ymweliad. Mae’n gyfle iddi fod yng nghwmni plant eraill sydd â chymhorthion clyw ac ati ac mae’n fan lle gallaf gwrdd â rhieni eraill i siarad amdano. Nid ydych chi'n gweld llawer o gyfleoedd fel hyn, felly mae'n lle anhygoel i mi ac wrth gwrs i fy mhlentyn.
Mae’r plentyn (7 oed) wedi mwynhau mynd i Listen Up ac mae’n edrych ymlaen at bob sesiwn – yn enwedig y gweithgareddau coginio. Mae staff SenCom wedi trefnu rhai ymwelwyr allanol gwych sy'n rhoi hwb mawr i'w hyder. Mae'r grŵp hefyd yn ein helpu cymaint i fod yng nghwmni plant a theuluoedd eraill sy'n wynebu’r un heriau. Diolch i'r tîm am ein cefnogi a'n croesawu ni i gyd i gymuned mor ofalgar
Mae fy mab yn dioddef o fyddardod unochrog, yn ei glust chwith. Dim ond am gyfnod byr yr ydym wedi bod yn dod i Listen Up, ac mae'n naturiol yn blentyn swil. Gall gymryd llawer iddo deimlo'n ddigon cyfforddus i adael pobl i mewn a dod allan o'i gragen. Ers dod i Listen Up rydym wedi gweld newid mor gadarnhaol yn ei hyder. Mae e bellach yn ymuno â gweithgareddau heb fy angen i wrth ei ochr. Mae'n llawer mwy parod i roi cynnig ar weithgareddau newydd sy'n cael eu cyflwyno i'r grŵp ac mae hyd yn oed wedi dechrau rhoi cynnig ar bethau y tu allan i'r grŵp na fyddai efallai wedi eu hystyried o'r blaen
Rydw i mor ddiolchgar i'r grŵp chwarae b/Byddar a phawb sy’n rhan ohono. Pan wnaethon ni ddarganfod bod ein plentyn yn fyddar roedden ni’n teimlo’n hollol unig ond mae'r grŵp yma wedi gwneud i ni feddwl yn hollol wahanol ac rydyn ni'n cael cymaint o gefnogaeth
Mae dod i'r cylch chwarae b /Byddar am y cyfnod byr o amser roeddem yn gallu ei fynychu, wedi dylanwadu’n fawr ar y ffordd y mae fy mhlentyn yn gweld y byd i’r pwynt mae hi’n meddwl bod cymhorthion clyw yn normal! Roedd hi’n dweud pa mor annwyl oedd gweld babanod mor fach yn eu gwisgo, a chafodd ei swyno gan y ffaith fod pobl yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i gyfathrebu. Hyd yn oed nawr yn 3.5 oed mae hi'n methu a deall pam nad oes gan rai pobl gymhorthion clyw, mae hi'n meddwl eu bod nhw'n cŵl a pham na fyddai pawb eisiau rhai! Rydyn ni hefyd wedi gwneud ffrindiau am oes ac am hynny byddwn yn arbennig o ddiolchgar!
Mae'r grŵp chwarae B/Byddar hwn wedi bod yn achubiaeth. Cawsom ein llorio pan wnaethon ni ddarganfod bod ein plentyn yn fyddar, ond gyda’ch cefnogaeth chi i gyd, rydyn ni nawr yn gwybod y bydd popeth yn iawn. Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau am oes, ac am hyn rydym ni’n wirioneddol ddiolchgar.
