Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

Ynglŷn â SenCom

Yn SenCom, rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion synhwyraidd a chyfathrebu. Rydym yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae ein lefelau ymyrraeth yn cyfateb ag anghenion newidiol plant a phobl ifanc unigol.

Mae ein gwasanaethau'n cynnwys:

  • Asesu ac Adnabod: Gwerthusiadau cynhwysfawr i ganfod anghenion penodol a datblygu cynlluniau cymorth personol.
  • Cyngor a Chymorth: i sicrhau bod lleoliadau addysgol yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag amhariad ar y synhwyrau, yn eu lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad am strategaethau ac adnoddau defnyddiol neu sefydliadau eraill
  • Addysgu Arbenigol: Sesiynau un i un a sesiynau grŵp gydag athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu i ddatblygu sgiliau a strategaethau ar gyfer dysgu, llesiant, mynediad ac annibyniaeth.
  • Cymorth i Deuluoedd: Arweiniad ac adnoddau i deuluoedd, i’w helpu i ddeall anghenion eu plentyn a’u cefnogi.
  • Hyfforddiant a Gweithdai: Datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg ehangach a gweithwyr proffesiynol eraill i wella eu sgiliau i gefnogi plant ag anghenion synhwyraidd a chyfathrebu.

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o enedigaeth i 25 oed:

  • gartref
  • mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
  • mewn lleoliadau addysgol (prif ffrwd ac arbennig)
  • mewn colegau Addysg Bellach (AB)