Mae partneriaeth gref rhwng y cartref a’r ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi plant a phobl ifanc b/Byddar.
Pan fydd teuluoedd, lleoliadau addysgol a gwasanaethau arbenigol yn gweithio gyda'i gilydd, mae plant yn elwa ar ddulliau gweithredu cyson, sy'n cefnogi eu cyfathrebu, eu llesiant a'u dysgu.
Mae rhannu gwybodaeth a dathlu cynnydd yn ein helpu i ddeall anghenion pob plentyn a’u diwallu’n effeithiol.
Isod, fe welwch adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc b/Byddar.
- Taflen Fy Nheclyn Cymorth Clyw (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)(opens in new tab)
- My Hearing Aids - Templed Stori Gymdeithasol(opens in new tab)
- Canllawiau i deuluoedd a staff ysgolion: Lleihau'r risg o ergydion i'r pen i blentyn sydd â Llwybr Dŵr Festibwlar Chwyddedig (EVA)(opens in new tab)
- Datblygu Sgiliau Gwrando(opens in new tab)
Isod mae yna fideo YouTube a allai fod o gymorth wrth drafod hunaniaeth fyddar gyda phlant ifancach, er y gallai hefyd fod yn addas i rai plant hŷn gan ddibynnu ar eu hanghenion unigol a faint o ddealltwriaeth sydd ganddynt.
Gall hefyd fod yn adnodd defnyddiol i ysgolion, yn enwedig wrth archwilio themâu fel perthyn, cynhwysiant a hunaniaeth. Er bod y fideo yn canolbwyntio ar hunaniaeth fyddar, gall annog trafodaethau ehangach am hunaniaeth bersonol a'r hyn sy'n gwneud pob un yn unigryw.
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
