Neidio i gynnwys

Mae yna amrywiaeth eang o adnoddau, gwasanaethau a rhwydweithiau cymorth ar gael i helpu plant a phobl ifanc b/Byddar i ffynnu gartref, adeiladu annibyniaeth, a chymryd rhan yn llawn ym mywyd y teulu a’r gymuned.

Dyfeisiau Rhybuddio a Diogelwch yn y Cartref

Mae yna amrywiaeth o ddyfeisiau rhybuddio arbenigol ar gael i gefnogi pobl f/Fyddar yn y cartref. Gall y rhain gynnwys offer sy'n defnyddio goleuadau sy'n fflachio, dirgryniadau, neu rybuddion gweledol eraill ar gyfer clychau drws, clociau larwm, ffonau, monitorau babanod, a larymau mwg.

Mae'n bwysig sicrhau bod trefniadau diogelwch tân yn bodloni anghenion pob aelod o'r aelwyd. Gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol roi cyngor a, mewn llawer o ardaloedd, gynnig ymweliad diogelwch yn y cartref am ddim.

  • Gwybodaeth am Ddiogelwch Tân
  • Gofyn am Ymweliad Diogelwch yn y Cartref

Cymorth i Deuluoedd

Mae teuluoedd yn aml yn elwa ar wybodaeth ac arweiniad wedi'u teilwra i'w hamgylchiadau unigol. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i gefnogi rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd, ac aelodau estynedig o'r teulu i ddeall plentyn neu unigolyn ifanc b/Byddar a’u cefnogi.

Mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar gyfer:

Grantiau a Chymorth Ariannol

Efallai y bydd gan deuluoedd hawl i gymorth ariannol i helpu gyda’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â magu plentyn neu unigolyn ifanc byddar.

Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am:

  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer eich plentyn neu berson ifanc byddar.
  • Grantiau ar gyfer offer arbenigol, adnoddau addysgol, gweithgareddau, neu gyfleoedd trwy sefydliadau elusennol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:

Gall y sefydliadau hyn gynnig cyngor ymarferol, cymorth ariannol, a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc byddar, a'u teuluoedd.

Gweithgareddau Hamdden, Chwarae a Chymdeithasol

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, clybiau, a digwyddiadau cymunedol yn helpu plant a phobl ifanc b/Byddar i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd, a gwneud ffrindiau.

Llyfrau a Darllen

Mae darllen yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad iaith a llythrennedd. Gall llyfrau sy'n cynnwys cymeriadau, profiadau, a modelau rôl b/Byddar positif helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a meithrin cariad at ddarllen ar yr un pryd. Mae yna amrywiaeth o apiau ac adnoddau digidol hefyd sydd wedi'u cynllunio i gefnogi sgiliau iaith, cyfathrebu a gwrando.

Teganau a Chwarae Synhwyraidd

Gall teganau cynhwysol helpu plant i archwilio’u hunaniaeth a'u profiadau. Mae teganau sy'n cynnwys cymhorthion clyw, mewnblaniadau cochlea, neu dechnoleg gynorthwyol arall ar gael, ac mae rhai sefydliadau'n rhoi grantiau i helpu teuluoedd i gael mynediad at deganau ac offer synhwyraidd.

  • Teganau ac adnoddau cynhwysol
  • Grantiau ar gyfer teganau ac offer synhwyraidd

Gweithgareddau a Chlybiau

Mae mynediad at chwaraeon, y celfyddydau, grwpiau ieuenctid, a gweithgareddau cymunedol yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ryngweithio’n gymdeithasol, datblygu ar lefel bersonol, a mwynhau. Anogir teuluoedd i archwilio gweithgareddau lleol a chenedlaethol sy'n hygyrch ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc b/Byddar.

  • Gweithgareddau a chlybiau hygyrch
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, hyder, a chyfeillgarwch

Trwy'r adnoddau a'r cyfleoedd hyn, gall plant a phobl ifanc b/Byddar fwynhau bywyd cartref a chymdeithasol cyfoethog a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu potensial llawn.

Gweler ein tudalen Beth Sy’ ‘Mlaen am fanylion ein gweithgareddau.

Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol

Mae’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol (PSR)(opens in new tab) yn wasanaeth am ddim sy’n cael ei gynnig gan gyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith i roi cymorth ychwanegol i bobl y gallai fod angen cymorth arnynt yn ystod toriadau trydan neu os bydd rhywbeth yn tarfu ar eu cyflenwad ynni. Mae ar gael i ystod eang o gwsmeriaid, gan gynnwys pobl B/byddar, rhai sydd â nam ar y golwg, yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, yn dibynnu ar offer meddygol, neu sydd o oedran pensiwn. Wrth ymuno â’r gofrestr, gall helpu i sicrhau eich bod yn cael cymorth pwrpasol a chyfathrebiadau hygyrch pan fydd ei angen fwyaf.