Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

Ynglŷn â'r Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Mae ComIT yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a lleoliadau addysgol i ddiwallu anghenion ychwanegol y plant a phobl ifanc hynny sydd ag anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn bennaf, a phan fydd yr anghenion hynny’n effeithio ar allu’r plentyn neu'r person ifanc hwnnw i ddysgu a chael mynediad at y cwricwlwm.

Mae ComIT yn darparu hyfforddiant, cyngor, arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau yn Ne-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen).

Mae'r tîm yn cynnwys Pennaeth Gwasanaeth, Athrawon Ymgynghorol, Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol a Therapyddion Iaith a Lleferydd.

Mae ComIT yn cynnig Rhaglen Dysgu Proffesiynol gan gynnwys hyfforddiant achrededig ar gyfer ymarferwyr a lleoliadau addysgol. Maent wedi datblygu canllawiau a deunyddiau cymorth uchel eu hansawdd i'w defnyddio ar lefel gyffredinol (sy’n darparu ar gyfer pob Plentyn a Pherson Ifanc).

Mae Pennaeth y Gwasanaeth yn gweithio gyda Gweithwyr Proffesiynol Arweiniol ym mhob awdurdod lleol i nodi ysgolion a disgyblion y mae angen arnynt gyngor, cymorth ac ymyrraeth wedi'i dargedu.

Gall staff ComIT weithio gyda phlant unigol neu gyda grwpiau o blant a phobl ifanc gan ddefnyddio offer manwl i adnabod anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu, cymorth sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phrosesau monitro.

Mae aelod o staff yn y lleoliad (fel arfer y CADY) yn cysylltu â ComIT i gynllunio'r cymorth hwn. Mae teuluoedd yn cael adnoddau ac yn cael gwybod am gynnydd eu plentyn.

Mae ComIT hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd BIPAB. Gall ddarparu sesiynau mewn ysgolion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, os tybir mai'r ysgol yw’r lleoliad mwyaf priodol i gefnogi’r targedau therapi iaith a lleferydd penodol.

Mae Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol ComIT yn cysylltu â theuluoedd a therapydd iaith a lleferydd y Plant a Phobl Ifanc, drwy gydol y rhaglen gymorth.

Sut mae mynd ati i wneud cais am gymorth?

Mae ceisiadau i weithio gyda phlant yn dod at ComIT drwy CADY yr ysgol.