Mewn cam sylweddol tuag at rymuso plant a phobl ifanc ag amhariad ar eu golwg, mae Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg SenCom wedi mynd i bartneriaeth â Guide Dogs i greu Pecyn Cymorth cynhwysfawr ar Hunaneiriolaeth Cadarnhaol. Mae'r pecyn cymorth hwn, sy'n cyfuno adnoddau, gweithgareddau a chanllawiau hunan-eiriolaeth, wedi'i gynllunio i hyrwyddo hunaneiriolaeth gadarnhaol ymhlith y gymuned amhariad ar y golwg.
Lansiwyd y pecyn cymorth yng Nghynhadledd Genedlaethol VIEW (Gweithlu Addysg Amhariad ar y Golwg) yn Birmingham gan Lisa Reynolds a Sarah Hughes o Wasanaeth Amhariad ar y Golwg SenCom, ochr yn ochr ag Andrea Davies, Guide Dogs. Cafodd y lansiad ymateb brwdfrydig iawn gan y gymuned addysg amhariad ar y golwg. Mae’r pecyn cymorth ar gael am ddim erbyn hyn ar wefan Guide Dogs, felly mae’n hygyrch i'r gweithlu addysg amhariad ar y golwg ledled y byd.
Mae’r Pecyn Cymorth Hunaneiriolaeth Cadarnhaol yn cyd-fynd â Fframwaith y Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Amhariad ar y Golwg (CFVI), sy'n amlinellu'r sgiliau hanfodol y mae angen i blant eu bachu trwy gydol eu haddysg i fod yn barod ar gyfer byd oedolion. Trwy ddarparu adnoddau a gweithgareddau y gellir eu golygu, nod y pecyn cymorth yw cefnogi’r gwaith i ddatblygu’r sgiliau hyn a gwella'r profiad addysgol cyffredinol i blant a phobl ifanc ag amhariad ar y golwg.
- Fy llygaid a fi(opens in new tab)
- Adborth cyn ac ar ôl y rhaglen hunan-eirioli cadarnhaol(opens in new tab)
- Taflenni cofnodi’r rhaglen hunan-eirioli a llesiant(opens in new tab)
- Self advocacy self help guide(opens in new tab)
- Y Rhaglen hunan-eiriol a llesiant(opens in new tab)
- Adnoddau’r rhaglen hunan-eirioli a llesiant(opens in new tab)
- Cefnogi brodyr a chwiorydd plant ag amhariad ar y golwg(opens in new tab)
- Cefnogi plant ag amhariad ar y golwg i ffeindio’u llais(opens in new tab)
Am ragor o wybodaeth ac i gael hyd i’r pecyn cymorth, ewch i wefan Guide Dogs(opens in new tab).
I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Amhariad ar y Golwg (CFVI), ewch i wefan RNIB(opens in new tab).
