Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

Hyrwyddwyr SenCom

Dathlu ein Hyrwyddwyr Cyfathrebu Synhwyraidd!

Eleni, roeddem yn falch o gydnabod nifer o weithwyr proffesiynol a thimau ymroddedig drwy gyflwyno Cerdyn Hyrwyddwyr SenCom i gydnabod eu hymrwymiad eithriadol i gyfathrebu synhwyraidd.

Mae ein Hyrwyddwyr wedi dangos angerdd dros ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, llwyddo i roi strategaethau cyfathrebu synhwyraidd ar waith, a hyrwyddo ethos SenCom yn eu hysgolion a'u lleoliadau. Mae eu gwaith yn helpu i greu amgylcheddau cynhwysol lle gall plant a phobl ifanc gael mynediad at ddysgu, cymryd rhan yn llawn, a chyflawni deilliannau cadarnhaol.

Mae Hyrwyddwyr Unigol wedi:

  • Cwblhau hyfforddiant Cyfathrebu Synhwyraidd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
  • Dangos ymrwymiad parhaus i ddatblygiad proffesiynol
  • Gweithredu hyfforddiant a strategaethau yn effeithiol wrth ymarfer
  • Hyrwyddo dulliau cyfathrebu synhwyraidd ymhlith cydweithwyr
  • Dangos tystiolaeth glir o effaith gadarnhaol ar ganlyniadau disgyblion

Mae Hyrwyddwyr mewn Ysgolion, Cyfnodau ac Adrannau wedi:

  • Cynnig cyngor, rhoi hyfforddiant ac adnoddau cyfathrebu synhwyraidd ar waith yn gyson
  • Addasu amgylcheddau ffisegol, gweledol a synhwyraidd sy’n cefnogi disgyblion drwy gydol y diwrnod ysgol
  • Datblygu dull ysgol gyfan o gyfathrebu synhwyraidd, gan wella mynediad at y cwricwlwm a chyfleoedd allgyrsiol
  • Sicrhau deilliannau cadarnhaol i ddisgyblion a thystiolaeth o hynny drwy arsylwadau, asesiadau a data

Llongyfarchiadau mawr i bawb a wnaeth dderbyn un eleni. Diolch am eich ymroddiad, eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion synhwyraidd a chyfathrebu.

Gallwch weld rhai o'n derbynwyr isod.

Some of the Sensory Communication Champions