Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn cynorthwyo pob plentyn ac unigolyn ifanc y nodwyd lefel o fyddardod ar eu cyfer, i gyflawni eu potensial gorau ac i gaffael ar y sgiliau bywyd angenrheidiol.
Mae'r gwasanaeth yn eu cefnogi i gael eu cynnwys yn llwyddiannus mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion. Mae'r tîm yn cynnwys Athrawon Cymwys Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn defnyddio Fframwaith Cymhwystra Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Amhariad ar y Synhwyrau, sef offeryn i Wasanaethau Synhwyraidd sy'n anelu at arwain penderfyniadau wrth ddyrannu cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc unigol.
Mae cymorth y gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â’r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein nod yw meithrin gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a darparu cymorth â ffocws mewn ymateb i anghenion plant a phobl ifanc wrth iddynt newid.
Sut mae atgyfeirio?
Mae mwyafrif helaeth y plant yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan faes Iechyd, ond rydym hefyd yn gallu rhoi cyngor a dangos y ffordd i rieni neu weithwyr proffesiynol sydd ag unrhyw bryderon am glyw plentyn neu unigolyn ifanc.
Ar ôl atgyfeirio, rhannir gwybodaeth gyda'r ysgol. Efallai y trefnir ymweliad â’r cartref a/neu’r ysgol er mwyn asesu'r disgybl a chasglu rhagor o wybodaeth.
