Ysgoloriaeth Lisa i UDA
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth glodfawr Walter Hines Page, gan yr ESU (English-Speaking Union) i Lisa Reynalds, un o'n hathrawon Cymwysedig Amhariad ar y Golwg. Dyma un o ddwy ysgoloriaeth yn unig a ddyfernir ledled y DU. Roedd yr ysgoloriaeth hon yn galluogi gweithwyr addysgu proffesiynol y DU i deithio i America i ymchwilio i brosiect o’u dewis yn ymwneud â llafaredd neu gyfathrebu, a helpodd hefyd i lywio ein gwaith ein hunain yn y maes hwn.
Fe wnaeth Lisa ymweld ag Ysgol Talaith Washington i'r Deillion am bythefnos ym mis Hydref 2025. Hwyluswyd ei hymweliad gan Yue Ting Siu, Cydlynydd Canolfan Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol y Gogledd-orllewin (CATT-NW) yn yr ysgol. Yn ystod ei hymweliad, canolbwyntiodd Lisa ar eu rhaglen o hyfforddiant technoleg gynorthwyol ar gyfer athrawon sy’n addysgu plant dall a phlant â golwg isel, gan ddilyn model "hyfforddi’r hyfforddwr". Ar ôl dychwelyd, ystyriodd sut y byddai modd defnyddio'r model hwn ledled Cymru.
Technoleg oedd un o ddeilliannau allweddol Fframwaith y Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Amhariad ar y Golwg (CFVI). Roedd yr ysgoloriaeth hon yn gyfle unigryw i Lisa gael mewnwelediad a gwybodaeth werthfawr y gellir eu defnyddio i wella’r cymorth a’r addysg a ddarperir i blant a phobl ifanc ag amhariad ar eu golwg ledled Cymru.
Gallwch weld profiad Lisa yma – Taith ysgoloriaeth Lisa yng Nghaliffornia(opens in new tab).
Profiad Gwobr y Celfyddydau
Ym mis Rhagfyr 2022 cafodd ein dysgwyr ag amhariad ar eu golwg gyfle i dderbyn Gwobr Gelfyddydau wedi'i hachredu gan Goleg y Drindod, Llundain. Mae Profiad Gwobr y Celfyddydau yn dathlu creadigrwydd a chyflawniad personol yn y celfyddydau. Cefnogwyd ein dysgwyr gan staff SenCom a chynyrchiadau UCAN i archwilio, creu a rhannu eu doniau artistig wrth feithrin hyder a sgiliau hanfodol.
Cyflwynwyd y wobr gan Tracy Pead, Arweinydd Trawsnewid ADY Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

Ennill Gwobr Natur VICTA UK
Er gwaethaf y tywydd cynnes, aeth ein grŵp o'n dysgwyr ag amharid ar eu golwg ati i weithio tuag at eu bathodynnau Gwobr Natur VICTA UK gyda chefnogaeth Deb. Trwy ystod o weithgareddau natur, aeth y dysgwyr ati i archwilio eu hamgylchoedd, datblygu sgiliau newydd a chwblhau heriau er mwyn ennill eu bathodynnau. Trwy ddefnyddio mannau cysgodol yn yr awyr agored, cafodd y grŵp gyfle i fwynhau gwrando, darganfod a chysylltu â natur, wrth wneud cynnydd rhagorol tuag at eu gwobr.
Roedd brwdfrydedd y grŵp, ei natur benderfynol a’i allu i weithio fel tîm yn wych drwy gydol y gweithgareddau, a dylai pawb fod yn hynod falch o'u cyflawniadau. Da iawn i bawb a gymerodd ran!

