Mae'r Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg (VIS) yn cefnogi plant a phobl ifanc o Dorfaen, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Mlaenau Gwent sydd ag amhariad ar eu golwg (VI), anableddau lluosog ac amhariad ar eu golwg (MDVI), neu amhariad amlsynhwyraidd (MSI), a hynny’n rhan o'r Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom).
Ein nod yw sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr yn cael dewis, ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael eu cynnwys yn llwyddiannus yn eu cymunedau lleol, meithrinfeydd, lleoliadau prif ffrwd ac ysgolion arbennig. Mae arbenigedd, cyngor ac adnoddau arbenigol ar gael i leoliadau addysgol fel y gallant gynnig mynediad llawn a chynhwysol i ddysgu.
Mae’r Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg yn darparu ystod o wasanaethau sydd wedi'u teilwra i anghenion unigol, gan gynnwys cymorth uniongyrchol, hyfforddiant arbenigol, asesu, ymgynghori ac agweddau symudedd a sefydlu. Darperir y cymorth hwn gan athrawon cymwysedig sy’n arbenigo mewn amhariadau ar y golwg (QTVI) ac amhariadau amlsynhwyraidd (QTMSI), gan sicrhau bod deilliannau’r Fframwaith Cwricwlwm ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Amhariad ar y Golwg(opens in new tab) (CFVI) yn cael eu cyflawni. Ar ôl asesu’r golwg neu’r swyddogaeth amlsynhwyraidd, gellir darparu ymyrraeth yn y tymor hir neu’r tymor byr, ochr yn ochr â chyngor, arweiniad a hyfforddiant i ysgolion a theuluoedd.
Mae rhaglenni ymyrraeth cyn-ysgol ar gael i blant dan dair oed a gellir eu cyflwyno mewn lleoliadau grŵp neu yng nghartref y teulu. Mae'r Gwasanaeth Amhariad Amlsynhwyraidd hefyd yn gallu cynnig monitro, cyngor ac arweiniad i blant a phobl ifanc ag amhariad synhwyraidd deuol (colli clyw a golwg), gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau cyfathrebu a synhwyraidd.
Mae sgiliau byw'n annibynnol, symudedd a chyfeiriadedd yn cael eu haddysgu gan staff sy’n arbenigo mewn symudedd a sefydlu. Maent yn darparu hyfforddiant, cymorth uniongyrchol ac ymyrraeth yn seiliedig ar ganlyniadau asesu ac adolygiadau parhaus. Mae gweithio ar y cyd yn ganolog i'n dull gweithredu, gan sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu nodi a'u diwallu'n effeithiol.
Mae’r Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg yn gweithio'n agos mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, ysgolion, gwasanaethau addysg a gyrfaoedd, a gweithwyr iechyd proffesiynol trwy broses asesu ac ymgynghori sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i gefnogi canlyniadau cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc.
Sut y gellir cael atgyfeiriad?
Mae’r Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n ymwneud â phlentyn neu berson ifanc a allai fod ag amhariad ar y golwg neu amhariad amlsynhwyraidd, neu os oes pryderon o bosib am anawsterau golwg neu amlsynhwyraidd.
