Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

Amhariad Amlsynhwyraidd

Mae'r athroniaeth ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag Amhariad Amlsynhwyraidd yn cael ei chrynhoi gan Miles & Riggio (1997):

Individuals with MSI … "deserve to be heard and respected for what they have to say, however they say it – with language, with gesture, with movement, with voice, with hands, with eyes, with silence."

Mae effeithiau cyfunol amhariad ar y clyw a'r golwg yn effeithio'n sylweddol ar allu person i gasglu gwybodaeth o'r byd o'i gwmpas. Mae hyn oherwydd bod gan rywun sydd ag amhariad amlsynhwyraidd, llai o siawns o ddibynnu ar y synhwyrau cryfach i wneud iawn am y rhai sy’n wannach, ac felly mae'r effeithiau andwyol, yn fwy na rhywun sydd wedi colli un o’r synhwyrau ar yr un lefel.

Mae cyngor ac arweiniad ar gael i rieni ac ysgolion ynghylch strategaethau buddiol, canfod rhaglenni priodol a monitro datblygiad y cyfathrebu.

Bydd yr Athro Cymwysedig Amhariadau Synhwyraidd yn anelu i wneud y canlynol:

  • Paratoi rhaglen strwythuredig i ddysgwyr sy'n arwain at ddull cyfathrebu priodol
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am anghenion a dulliau cyfathrebu
  • Nodi anghenion a galluoedd unigol trwy broses fonitro ac adolygu parhaus

Yr egwyddorion wrth ymgysylltu â dysgwyr ag Amhariadau Amlsynhwyraidd, eu teuluoedd a'u hysgolion yw:

  • Cyfathrebu yw'r agwedd graidd yn addysg a datblygiad dysgwyr ag Amhariadau Amlsynhwyraidd
  • Mae datblygu cyfathrebu yn gofyn am gysondeb, a dylai fod yn rhan annatod o fywyd bob dydd ym mhob lleoliad
  • Cydnabod bod pob dysgwr sydd ag Amhariad Amlsynhwyraidd yn gallu cyfathrebu

Os oes unrhyw gwestiynau ynglŷn ag Amhariad Amlsynhwyraidd, cysylltwch â'r gwasanaeth amhariad ar y golwg i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol