Mae ein Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg (VIS) yn ymroddgar i sicrhau bod disgyblion ag amhariad ar y golwg yn cael mynediad cyfartal i ddysgu a’u bod yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion i roi cymorth wedi'i deilwra sy'n gwella'r profiad addysgol i bob plentyn.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
- Trefniadau i Sefyll Arholiadau - Rydym yn arwain ysgolion i roi trefniadau priodol ar waith o ran sefyll arholiadau, fel papurau wedi'u haddasu, amser ychwanegol, a thechnoleg gynorthwyol, gan sicrhau bod disgyblion yn gallu dangos eu gwybodaeth heb rwystrau.
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth y Gwasanaeth Amhariad ar y Golwg ac Amhariad Amlsynhwyraidd - Mae ein tîm yn darparu hyfforddiant arbenigol i staff a disgyblion i godi ymwybyddiaeth ynghylch Amhariad ar y Golwg (VI) ac Amhariad Amlsynhwyraidd (MSI). Mae'r hyfforddiant hwn yn hyrwyddo dealltwriaeth, empathi a strategaethau ymarferol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn effeithiol.
- Hyfforddiant ar gyfer pynciau penodol - Rydym yn darparu hyfforddiant pwrpasol i athrawon pwnc, gan eu helpu i addasu adnoddau a dulliau addysgu i ddiwallu anghenion disgyblion ag amhariad ar eu golwg, a hynny o ran pynciau fel gwyddoniaeth, mathemateg ac addysg gorfforol.
Ein Nod
Trwy arfogi staff a disgyblion gyda'r wybodaeth a'r offer cywir, anelwn at greu amgylchedd dysgu lle gall myfyrwyr ag amhariad ar eu golwg gymryd rhan yn llawn. Bydd hyn yn eu helpu i gyflawni eu potensial, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
