Gall cwrdd â phlant a phobl ifanc b/Byddar eraill gael effaith gadarnhaol iawn ar hyder, sgiliau cyfathrebu, llesiant ac ymdeimlad o hunaniaeth plentyn. Mae magu cyfeillgarwch gyda chyfoedion sy'n rhannu profiadau tebyg yn helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu cynnwys a'u grymuso i fod yn nhw eu hunain.
Yma yn SenCom, rydyn ni’n cydnabod pa mor bwysig yw'r cysylltiadau hyn. Dyna pam rydyn ni'n cynnal Digwyddiadau Cymdeithasol ‘Listen Up’ rheolaidd a'n Grŵp Chwarae i Blant b/Byddar, lle gall teuluoedd gwrdd, rhannu profiadau, a meithrin cyfeillgarwch mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.
Yn ogystal â'r gweithgareddau rydyn ni'n eu trefnu, mae yna lawer o sefydliadau ledled Cymru sy'n cynnig cyfleoedd pellach i blant a phobl ifanc b/Byddar gymryd rhan, datblygu sgiliau newydd, a chwrdd ag eraill yn y gymuned f/Fyddar.
Cymdeithas Bêl-droed Byddar Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Byddar Cymru yn cynnig cyfleoedd i chwaraewyr b/Byddar chwarae pêl-droed a datblygu eu sgiliau. Yn ddiweddar, sefydlwyd academi i bobl ifanc, ac mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc hyfforddi, cystadlu, a meithrin cysylltiadau â chwaraewyr b/Byddar eraill. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion treialon a sut i gymryd rhan, ewch i dudalen Facebook Cymdeithas Bêl-droed Byddar Cymru(opens in new tab) neu anfonwch neges trwy e-bost i secretarywdfa@gmail.com.
Rygbi Byddar Cymru
Mae gan Rygbi Byddar Cymru garfanau Merched a Dynion ac mae'n cynnig cyfleoedd i chwaraewyr gymryd rhan yn y gamp ar lefel gystadleuol a bod yn rhan o gymuned chwaraeon pobl f/Fyddar. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Rygbi Byddar Cymru.(opens in new tab)
Chwaraeon Byddar Cymru
Mae Chwaraeon Byddar Cymru yn rhoi cymorth ac arweiniad i bobl f/Fyddar sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, gan helpu unigolion i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant, coetsio a chwaraeon ledled Cymru. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Chwaraeon Byddar Cymru(opens in new tab).
Quiet Beats
Mae Quiet Beats yn rhan o Gwmni Ifanc Jones the Dance ac mae wedi'i gynllunio'n benodol i bobl ifanc b/Byddar sydd â diddordeb mewn dawns a pherfformio. Mae'n cynnig lle creadigol i archwilio symudiad, magu hyder, a gwneud ffrindiau newydd. Ewch i wefan Quiet Beats(opens in new tab) am ragor o wybodaeth.
Deafly Dragons
Mae Deafly Dragons yn cynnig cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc b/Byddar gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â chyfoedion, a magu hyder trwy brofiadau cyffredin. Mae eu rhaglenni’n hyrwyddo cynhwysiant, cyfeillgarwch a datblygiad personol yn y gymuned Fyddar.
Cwmni Theatr Taking Flight
Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn gweithio i wneud y celfyddydau’n fwy hygyrch a chynhwysol. Mae’n cynnig cyfleoedd creadigol i bobl ifanc b/Byddar ac anabl gymryd rhan mewn theatr, perfformio ac adrodd straeon gan ddatblygu hyder a hunanfynegiant.
Diwrnodau Cymunedol Byddar Undeb Rygbi Cymru
Mae Diwrnodau Cymunedol Byddar Undeb Rygbi Cymru(opens in new tab) yn ddigwyddiadau rygbi cynhwysol sydd wedi'u cynllunio i blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw ledled Cymru. Maen nhw’n cael eu cyflwyno gan Undeb Rygbi Byddar Cymru mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a sefydliadau rygbi rhanbarthol, ac yn sesiynau difyr a diddorol sy’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau rygbi, magu hyder, gwneud ffrindiau newydd a phrofi'r gêm mewn amgylchedd cefnogol. Gyda chefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain, cyfleoedd i gwrdd â chwaraewyr, gweithgareddau coetsio a llwybrau dilyniant clir i rygbi cymunedol, mae'r digwyddiadau yn helpu i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gamp a ffynnu.
Operasonic
Mae Operasonic(opens in new tab) yn elusen gerddoriaeth gymunedol yng Nghasnewydd sy'n defnyddio cerddoriaeth, storïau a chreadigrwydd i ddod â phobl at ei gilydd. Trwy amrywiaeth eang o brosiectau, gweithdai a pherfformiadau, mae Operasonic yn creu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir fynegi eu hunain, datblygu sgiliau newydd a dathlu eu cymunedau. O gefnogi cerddorion ifanc a theuluoedd i weithio gyda grwpiau sydd ar yr ymylon, mae'r sefydliad yn credu bod creadigrwydd yn hawl ddynol ac yn ymdrechu i wneud cerddoriaeth yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn ystyrlon i bawb.
Cadwch Mewn Cysylltiad
Peidiwch ag anghofio dilyn ein tudalen Facebook, (opens in new tab)lle rydym yn rhannu digwyddiadau, gweithgareddau, gweithdai a chyfleoedd cymdeithasol lleol a chenedlaethol i blant a phobl ifanc b/Byddar, a'u teuluoedd, yn rheolaidd. Gyda'n gilydd, gallwn helpu plant i feithrin cyfeillgarwch, datblygu hyder, a ffynnu yn y gymuned Fyddar.
