Gwybodaeth am y cwrs
Mae Gwasanaeth Cymorth SenCom i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyfforddiant i helpu i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddiwallu anghenion eu dysgwyr sydd â lefelau amrywiol o fyddardod. Efallai bod dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau hefyd sy’n aros am asesiadau clyw.
Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn adolygu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Byddardod pob tair blynedd i sicrhau fod staff allweddol yn cynnal lefel hyfforddiant yn gyfredol.
Nodau’r cwrs
Byddai’r hyfforddiant hwn yn rhoi i gyfranogwyr ddealltwriaeth graidd o fyddardod, ei effaith, mathau o fyddardod, strategaethau cyfathrebu a strategaeth cymorth.
Pwy fydd yn elwa o’r cwrs yma?
Bydd y cwrs o fudd i:
- Gynorthwywyr Dysgu neu berson a enwir sy’n cefnogi dysgwyr â lefel o fyddardod
- Athrawon
- CADY
- Penaethiaid
Sut i wneud cais
I wneud cais am le ar y cwrs yma, cwblhewch y ffurflen
