Neidio i gynnwys
Young child holding their hands covered in paint in front of their face

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Byddardod- Craidd gyda Sesiwn Ymarferol ar Reolaeth Cymorth Clyw (Ionawr)

Gwybodaeth am y cwrs

Mae Gwasanaeth Cymorth SenCom i Blant a Phobl Ifanc b/Byddar yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyfforddiant i helpu i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fodloni anghenion eu dygwyr sydd â lefelau amrywiol o fyddardod. Efallai bydd yna ddysgwyr yn mynychu ysgolion a lleoliadau sy’n aros am asesiadau clyw.

Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn adolygu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Byddardod pob tair blynedd i sicrhau fod staff allweddol yn cynnal lefel hyfforddiant yn gyfredol

Mae hwn yn gwrs am ddim. Mae yna opsiwn i brynu eich Offer Gofal Cymorth Clyw eich hunain (£25 fesul pecyn).

Nodau’r cwrs

Yn yr hyfforddiant hwn bydd cyfranogwyr yn cael dealltwriaeth graidd hanfodol o fyddardod, ei effaith, mathau o fyddardod, strategaethau cyfathrebu a strategaethau cymorth. Yn ogystal, bydd sesiynau ymarferol i roi mwy o ddealltwriaeth o brofiadau o fyddardod a phrofiad ymarferol o reoli a chynnal a chadw offer clyw.

Pwy fydd yn elwa o’r cwrs yma?

Bydd y cwrs yma o fudd i:

  • Cynorthwywyr Dysgu neu berson a enwir sy’n cefnogi dysgwyr sydd â lefel o fyddardod
  • Athrawon
  • CADY
  • Penaethiaid

Sut i wneud cais

I ofyn am le ar y cwrs hwn, cwblhewch y ffurflen

Cofrestrwch ddiddordeb yn y cwrs hwn(opens in new tab)

Manylion y cwrs

Darparwr y cwrs

Gwasanaeth Cymorth i’r b/Byddar

Cost y cwrs

Free

Dyddiad y cwrs

13/01/2027

Amser y cwrs

09:30

12:00

Lleoliad y cwrs

Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB