Neidio i gynnwys
Young child holding their hands covered in paint in front of their face

Hanen Teacher Talk Rhan A - Annog datblygiad iaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar (Tachwedd)

Gwybodaeth am y cwrs

Cyflwyno Addysgwyr Plentyndod Cynnar i ddull Learning Language and Loving It™ Hanen.

Mae hwn yn gwrs 3 diwrnod a bydd sesiynau ar:

  • Tachwedd: 4ydd, 18fed
  • Rhagfyr: 2nd

Fel addysgwr plentyndod cynnar, mae gennych rôl hanfodol wrth ddatblygu sgiliau iaith gynnar, cymdeithasol a llythrennedd mewn plant ifanc. Serch hynny, mewn ystafell ddosbarth gydag anghenion amrywiol, gall fod yn heriol i gynnwys pob plentyn mewn rhyngweithiadau ystyrlon sy’n hyrwyddo dysgu. Pan fo plentyn yn fwy tawel neu’n ymgysylltu llai, efallai byddan nhw’n colli allan ar ryngweithiadau, sy’n cyfyngu ar eu cyfleoedd i gyfathrebu a dysgu.

Mae Teacher Talk™ yn deillio o Raglen Hanen, Learning Language and Loving It™. Y bwriad yw cefnogi pob plentyn yn eich gofal, p’un ai ydyn nhw’n datblygu mewn ffordd arferol, gydag iaith wedi oedi, neu’n ddysgwyr ail iaith.

Nodau’r cwrs

Mae’r hyfforddiant yma’n mynd i’r afael â sut y gall addysgwyr ddefnyddio sgyrsiau pob dydd, chwarae ac arferion dyddiol i hyrwyddo cyfathrebu a datblygiad cymdeithasol pob plentyn, gan gynnwys y rheiny ag oedi o ran iaith a’r rheiny sy’n ddysgwyr ail iaith.

Pwy fydd yn elw o’r cwrs yma?

Bydd y cwrs o fudd i:

  • Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar

Ar ôl cwblhau Hanen Teacher Talk Rhan A yn llwyddiannus, bydd cynrychiolwyr yn cael gwahoddiad i ymgymryd â Hanen Teacher Talk Rhannau B a C ychwanegol i ddatblygu ymhellach ac ymestyn eu dysgu.

Cost a- sut i wneud cais

Cost yw cwrs 3 diwrnod yma yw £55.00 y pen

Byd sesiynau o 9.15 i 12.15 a rhaid mynychu pob sesiwn

I ofyn am le ar y cwrs yma, cwblhewch y ffurflen

Cofrestrwch ddiddordeb yn y cwrs hwn(opens in new tab)

Manylion y cwrs

Darparwr y cwrs

Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Dyddiad y cwrs

04/11/2026

Amser y cwrs

09:15

12:15

Lleoliad y cwrs

Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB