Neidio i gynnwys
Young child holding their hands covered in paint in front of their face

Gweithdy Ymwybyddiaeth Ffonolegol – Sesiwn Cymraeg (Hydref)

Gwybodaeth am y cwrs

Gweithdy Pecyn Ymwybyddiaeth Ffonolegol ComIT

Mae’r gweithdy ymarferol hanner diwrnod o hyd yma’n cyflwyno Pecyn Ymwybyddiaeth Ffonolegol ComIT a sut y gall gael ei ddefnyddio sgiliau gwrando cynnar a ffonolegol mewn plant ifanc. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar weithgareddau diddorol ac adnoddau i gefnogi gwrando, odl, rhythm, ymwybyddiaeth o sillafau, gwahaniaethu synau ac ymwybyddiaeth ffonem gynnar mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion.

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd ymwybyddiaeth ffonolegol ar gyfer datblygiad lleferydd, iaith a llythrennedd.
  • Defnyddio Pecyn Ymwybyddiaeth Ffonolegol ComIT yn hyderus.
  • Cyflwyno gweithgareddau sy’n datblygu sgiliau gwrando, odl, rhythm, ymwybyddiaeth o sillafau a gwahaniaethu synau.
  • Addasu gweithgareddau’r pecyn i ddiwallu anghenion amrywiaeth o ddysgwyr.
  • Cynllunio a gweithredu gweithgareddau ymwybyddiaeth ffonolegol yn eu lleoliad.

Yn addas i

Mae’r gweithdy hwn yn addas i:

  • Staff Meithrin, Derbyn
  • Cynorthwywyr dysgu a staff cymorth dysgu
  • Ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Fformat y cwrs

Iaith cyflenwad

I gefnogi ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, bydd y gweithdy yma’n cael ei gyflwyno fel:

  • Sesiwn Saesneg
  • Sesiwn Cymraeg

Dylai cyfranogwyr ddewis y sesiwn sy’n gweddu i’w dewis o iaith a gofynion y lleoliad.

Manylion y cwrs

Darparwr y cwrs

Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Dyddiad y cwrs

21/10/2026

Amser y cwrs

12:30

15:30

Lleoliad y cwrs

Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB