Neidio i gynnwys
Young child holding their hands covered in paint in front of their face

POPAT (Programme of Phoneme Awareness Training)

Gwybodaeth am y cwrs

Ymyrraeth strwythuredig yw POPAT (Programme of Phoneme Awareness Training) sy’n datblygu ymwybyddiaeth plant o synau lleferydd cyn cyflwyno llythrennau. Trwy ddysgu clywed, adnabod, dadansoddi a thrin synau mewn geiriau, mae plant yn adeiladu’r sylfeini hanfodol ar gyfer darllen, ysgrifennu a sillafu.

Mae POPAT yn arbennig o effeithiol i ddysgwyr ag anawsterau llythrennedd neu anghenion lleferydd ac iaith. Trwy weithgareddau ymarferol, cam wrth gam, mae’n cryfhau sgiliau gwrando, talu sylw ac ymwybyddiaeth ffonolegol, gan help plant i wneud cysylltiadau cryfach rhwng synau a llythrennau wrth i lythrennedd ddatblygu.

Mae hwn yn gwrs 3 diwrnod a bydd sesiynau ar:

  • 21ain Medi
  • 29ain Medi
  • 7fed Hydref

Cynhelir sesiynau o13:00 i 16:00 a rhaid mynychu pob sesiwn.

Nodau’r cwrs

Bydd cyfranogwyr yn:

  • Deall egwyddorion a strwythur POPAT.
  • Archwilio rôl ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig mewn datblygiad llythrennedd.
  • Dysgu strategaethau ymarferol i ddatblygu sgiliau gwahaniaethu synau, plethu ac ymrannu.
  • Magu hyder wrth gyflenwi ymyraethau POPAT mewn sefyllfaoedd unigol a grwpiau bach.
  • Deall sut mae POPAT yn cefnogi dysgwyr gydag anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llythrennedd.
  • Edrych ar y symudiad o ymwybyddiaeth ffonem tuag at ddarllen, ysgrifennu a sillafu.

Pwy ddylai fynychu?

  • Athrawon
  • Cynorthwywyr Dysgu
  • Ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Delfrydol i’r rheiny sy’n cefnogi dysgwyr sydd ag anawsterau gyda lleferydd, iaith, cyfathrebu, darllen, ysgrifennu neu sillafu.

Cynnwys y cwrs

  • Ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig
  • Sgiliau gwrando a gwahaniaethu clyw
  • Adnabod ac ymrannu synau mewn geiriau
  • Gweithgareddau ymarferol ac adnoddau POPAT
  • Symud o synau lleferydd i synau llythrennau
  • Cefnogi sillafu ac ysgrifennu annibynnol

Deilliannau

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i weithredu POPAT yn effeithiol, gan gefnogi datblygiad llythrennedd cynnar dysgwyr a gwella hyder mewn darllen, ysgrifennu a sillafu.

Cofrestrwch ddiddordeb yn y cwrs hwn(opens in new tab)

Manylion y cwrs

Darparwr y cwrs

Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Cost y cwrs

£135 per delegate

Dyddiad y cwrs

21/09/2026

Amser y cwrs

13:00

16:00

Lleoliad y cwrs

Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB