Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
Gwahoddir Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYs), Penaethiaid ac Ymarferwyr Cyfathrebu Arweiniol i ymuno â ComIT i rannu ymarfer a chlywed y diweddaraf am:
- Gyfleoedd Dysgu Proffesiynol e.e. Cynnig Hyfforddiant ComIT
- Strategaethau / adnoddau i adnabod a chefnogi disgyblion ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu e.e. Pecyn Cymorth ComIT; Canllawiau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’r Blynyddoedd Cynnar; Rhwydwaith HWB ComIT
- Anhwylder Iaith Datblygiadol e.e. Pecyn Cymorth Swigen Anhwylder Iaith Datblygiadol
- Cyngor gan Therapi Iaith a Lleferydd BIPAB am Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu e.e. Atal Dweud; Mudandod Dethol
- Blaenoriaethau cenedlaethol e.e. Strategaeth Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru
Does dim angen cadw’ch lle ymlaen llaw. Bydd pob ysgol yn cael neges trwy e-bost gyda'r agenda a'r ddolen ar gyfer y cyfarfod.

