Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

Cyfarfod Rhwydwaith Tymhorol CADY ComIT (Tymor yr Hydref)

Network Meeting

Gwybodaeth am y digwyddiad hwn

Gwahoddir Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYs), Penaethiaid ac Ymarferwyr Cyfathrebu Arweiniol i ymuno â ComIT i rannu ymarfer a chlywed y diweddaraf am:

  • Gyfleoedd Dysgu Proffesiynol e.e. Cynnig Hyfforddiant ComIT
  • Strategaethau / adnoddau i adnabod a chefnogi disgyblion ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu e.e. Pecyn Cymorth ComIT; Canllawiau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’r Blynyddoedd Cynnar; Rhwydwaith HWB ComIT
  • Anhwylder Iaith Datblygiadol e.e. Pecyn Cymorth Swigen Anhwylder Iaith Datblygiadol
  • Cyngor gan Therapi Iaith a Lleferydd BIPAB am Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu e.e. Atal Dweud; Mudandod Dethol
  • Blaenoriaethau cenedlaethol e.e. Strategaeth Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru

Does dim angen cadw’ch lle ymlaen llaw. Bydd pob ysgol yn cael neges trwy e-bost gyda'r agenda a'r ddolen ar gyfer y cyfarfod.

Manylion y digwyddiad

Darparwr digwyddiadau

Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (ComIT)

Dyddiad y digwyddiad

10/11/2026

Amser y digwyddiad

15:30

16:30

Lleoliad y digwyddiad

Ar-lein (MS Teams)

Manylion cyswllt

Ffôn: 01633 648888 - E-bost SenCom@torfaen.gov.uk