Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
Mae ein Cylch Chwarae Cyn-ysgol ar gyfer y b/Byddar yn cynnig lle cyfeillgar, croesawgar i fabanod a phlant 0-4 oed sydd wedi cael diagnosis o fyddardod. Trwy weithgareddau difyr, sy'n seiliedig ar chwarae, mae plant yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau gwrando, cyfathrebu, iaith a chymdeithasol tra bod teuluoedd yn cael cyngor a chefnogaeth arbenigol.
I bwy mae'r grŵp chwarae hwn?
- Babanod a phlant 0 i 4 oed sydd â diagnosis o fyddardod
- Teuluoedd sy'n byw yn un o bum ardal awdurdod lleol Gwent
- Rhieni a gofalwyr sydd eisiau cymorth a chyngor arbenigol ar ôl diagnosis eu plentyn
- Teuluoedd sydd eisiau dod i gyswllt ag eraill sydd â phrofiadau cyffredin o fagu plentyn b/Byddar
Beth sy'n digwydd yn y cylch chwarae?
Gall plant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau difyr sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eu datblygiad cynnar, gan gynnwys:
- Gweithgareddau dysgu sy’n seiliedig ar chwarae
- Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau canolbwyntio a gwrando
- Cefnogaeth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu
- Rhyngweithio cymdeithasol â phlant eraill mewn amgylchedd diogel sy’n meithrin
- Gweithgareddau wedi'u teilwra i anghenion plant b/Byddar
Gall teuluoedd sy'n mynychu'r grŵp chwarae gael cymorth gan Athrawon Cymwys Arbenigol Plant a Phobl Ifanc b/Byddar a staff arbenigol sy'n gallu rhoi:
- Cyngor am fyddardod yn ystod plentyndod
- Arweiniad i gefnogi cyfathrebu a datblygiad iaith yn y cartref
- Gwybodaeth am dechnoleg clyw, offer a dyfeisiau gwrando
- Cyngor unigol i helpu plant i gyrraedd eu potensial llawn
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
Weithiau gall diagnosis o fyddardod eich gorlethu, ac efallai na fydd teuluoedd yn gwybod ble i droi am gyngor. Mae ein grŵp chwarae yn cynnig rhwydwaith cymorth gwerthfawr lle gall rhieni a gofalwyr:
- Gwrdd â theuluoedd eraill sydd â phrofiadau tebyg
- Rhannu syniadau, gwybodaeth a chyngor ymarferol
- Magu hyder wrth gefnogi datblygiad eu plentyn
- Cael mynediad at arweiniad parhaus gan weithwyr proffesiynol arbenigol
- Dathlu cyflawniadau a cherrig milltir gyda'i gilydd

