Neidio i gynnwys
SenCom Logo Fallback

‘Listen Up’ yn Ysgol Gynradd Nant Celyn (Mis Ebrill)

Children at the Listen Up group

Gwybodaeth am y digwyddiad hwn

Mae ein Grŵp Cymdeithasol ‘Listen Up’ yn dathlu plant a phobl ifanc b/Byddar rhwng 4 a 18 oed. Mae'r grŵp yn cynnig amgylchedd croesawgar, cynhwysol lle gall plant a phobl ifanc gael hwyl, ymlacio a dod i gyswllt ag eraill sydd â phrofiadau tebyg.

Mae ymuno â ‘Listen Up’ yn cynnig cyfleoedd i:

  • Feithrin cyfeillgarwch gyda phlant a phobl ifanc b/Byddar eraill.
  • Datblygu hunan-barch, hyder, ac annibyniaeth.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr a diddorol.
  • Rhoi tro ar brofiadau newydd a dysgu sgiliau newydd.
  • Gwella sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd cefnogol.
  • Mwynhau gweithgareddau fel gêmau, crefftau, sesiynau coginio, a digwyddiadau cymdeithasol.
  • Rhannu profiadau a heriau mewn lle diogel ble mae pawb yn deall.

Cefnogir ein sesiynau gan Athrawon Cymwys Plant a Phobl Ifanc b/Byddar a staff arbenigol sy'n helpu i greu profiadau cadarnhaol ac yn annog pobl ifanc i fagu hyder wrth ddatblygu cyfeillgarwch gydol oes.

Cefnogaeth i deuluoedd

Dydy ‘Listen Up’ ddim i blant a phobl ifanc yn unig. Rydyn ni hefyd yn anelu at ddatblygu rhwydwaith cefnogol i rieni a gofalwyr, gan gynnig cyfleoedd i ddod i gyswllt â theuluoedd eraill, rhannu profiadau, a chael mynediad at gymorth gan gymheiriaid yn y gymuned f/Fyddar.

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Grŵp Cymdeithasol ‘Listen Up’, rhaid i blant a phobl ifanc fod:

  • Rhwng 4 a 18 oed
  • Â byddardod wedi'i nodi ar eu cyfer
  • Yn byw yn un o bum ardal awdurdod lleol Gwent
Cofrestrwch nawr(opens in new tab)

Manylion y digwyddiad

Darparwr digwyddiadau

Gwasanaeth Cymorth i’r b/Byddar

Dyddiad y digwyddiad

12/04/2027

Amser y digwyddiad

15:45

17:30

Lleoliad y digwyddiad

Ysgol Gynradd Nant Celyn, Henllys Way, Cwmbrân, NP44 7DJ

Manylion cyswllt

Ffôn: 01633 648888 - E-bost: SenCom@torfaen.gov.uk