Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
Mae ein Grŵp Cymdeithasol ‘Listen Up’ yn dathlu plant a phobl ifanc b/Byddar rhwng 4 a 18 oed. Mae'r grŵp yn cynnig amgylchedd croesawgar, cynhwysol lle gall plant a phobl ifanc gael hwyl, ymlacio a dod i gyswllt ag eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Mae ymuno â ‘Listen Up’ yn cynnig cyfleoedd i:
- Feithrin cyfeillgarwch gyda phlant a phobl ifanc b/Byddar eraill.
- Datblygu hunan-barch, hyder, ac annibyniaeth.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr a diddorol.
- Rhoi tro ar brofiadau newydd a dysgu sgiliau newydd.
- Gwella sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd cefnogol.
- Mwynhau gweithgareddau fel gêmau, crefftau, sesiynau coginio, a digwyddiadau cymdeithasol.
- Rhannu profiadau a heriau mewn lle diogel ble mae pawb yn deall.
Cefnogir ein sesiynau gan Athrawon Cymwys Plant a Phobl Ifanc b/Byddar a staff arbenigol sy'n helpu i greu profiadau cadarnhaol ac yn annog pobl ifanc i fagu hyder wrth ddatblygu cyfeillgarwch gydol oes.
Cefnogaeth i deuluoedd
Dydy ‘Listen Up’ ddim i blant a phobl ifanc yn unig. Rydyn ni hefyd yn anelu at ddatblygu rhwydwaith cefnogol i rieni a gofalwyr, gan gynnig cyfleoedd i ddod i gyswllt â theuluoedd eraill, rhannu profiadau, a chael mynediad at gymorth gan gymheiriaid yn y gymuned f/Fyddar.
Cymhwystra
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Grŵp Cymdeithasol ‘Listen Up’, rhaid i blant a phobl ifanc fod:
- Rhwng 4 a 18 oed
- Â byddardod wedi'i nodi ar eu cyfer
- Yn byw yn un o bum ardal awdurdod lleol Gwent

