Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
I bwy mae’r grŵp chwarae hwn?
Mae ein Grŵp Chwarae Nam ar y Golwg ac Amlsynhwyraidd ar gael i fabanod a phlant ifanc o enedigaeth i 4 oed sydd wedi cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Nam ar y Golwg.
Mae'r grŵp chwarae yn cynnig amgylchedd diogel, cynhwysol lle gall plant archwilio, chwarae, dysgu a datblygu trwy weithgareddau sy'n synhwyraidd gyfoethog, tra bod teuluoedd yn cael y cyfle i ddod i gyswllt ag eraill a allai fod wedi cael profiadau tebyg.
Beth sy’n digwydd yn y grŵp chwarae?
Mae pob sesiwn wedi'i chynllunio i fod yn ddifyr, yn hwyl ac yn hygyrch i blant ifanc. Gall gweithgareddau gynnwys:
- Chwarae ac archwilio synhwyraidd
- Cerddoriaeth, caneuon a rhigymau
- Adrodd straeon a gweithgareddau cyfathrebu
- Gêmau rhyngweithiol a chyfleoedd i chwarae
- Profiadau dysgu cynnar i gefnogi datblygiad
- Cyfleoedd i fagu hyder, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol
Mae gweithgareddau wedi'u haddasu at anghenion unigol y plant sy'n mynychu, gan eu helpu i archwilio’u byd trwy brofiadau synhwyraidd ystyrlon.
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
Dydy Little Sparklers ddim i blant yn unig. Mae hefyd yn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr:
- Gwrdd â theuluoedd eraill a rhannu profiadau
- Cael mynediad at gyngor ac arweiniad gan staff arbenigol
- Dysgu am adnoddau, strategaethau a gwasanaethau sydd ar gael yn lleol
- Trafod unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn ag anghenion datblygiad a chymorth eu plentyn
- Adeiladu rhwydweithiau cefnogol gyda rhieni a gofalwyr eraill
Mae ein tîm yn anelu at greu awyrgylch hamddenol a chyfeillgar lle mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Sut i gofrestru ar gyfer y grŵp hwn
Os hoffech fynychu Little Sparklers, llenwch y ffurflen atgyfeirio hon neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu am ragor o wybodaeth.
Unwaith y cawn eich manylion, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod y grŵp a darparu gwybodaeth am sesiynau sydd i ddod.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi a'ch plentyn i Little Sparklers.

