Neidio i gynnwys

Cysylltydd Cymunedol

Helô, Gail ydw i, eich Cysylltydd Cymunedol(opens in new tab) ar gyfer Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn Ne Cymru.

Gail, Community Connector

Fel rhiant i blentyn byddar fy hun, rwy'n deall pa mor bwysig yw cael y gefnogaeth, y wybodaeth a'r bobl iawn o'ch cwmpas. Mae fy swyddfa yn eich cymuned leol, ac rwy'n cynnig cymorth wedi'i deilwra i deuluoedd â phlant byddar o unrhyw oedran, gydag unrhyw fath o fyddardod neu unrhyw lefel o fyddardod. Gallaf gynnig cymorth yn Gymraeg, yn Saesneg, neu gyda chymorth cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain cymwys.

Mae fy nod yn syml: cerdded ochr yn ochr â theuluoedd ar eu taith. Efallai bod hynny'n golygu eich helpu i gael mynediad at wasanaethau, rhoi gwybodaeth gytbwys i chi i gefnogi dewisiadau gwybodus, neu, yn syml, bod yn wyneb cyfeillgar sy’n deall. Beth bynnag mae’n ei olygu, rydw i yma i helpu.

Trwy weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a grwpiau cymunedol, gallwn sicrhau bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt. Gyda'n gilydd, rydyn ni’n:

  • Cefnogi teuluoedd i gael mynediad at y gwasanaethau a'r adnoddau mwyaf addas, gan ddangos y ffordd at gymorth lleol ac arbenigol, a chroesawu atgyfeiriadau gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
  • Rhannu gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd dibynadwy ar amrywiaeth o destunau, gan gynnwys awdioleg, addysg, opsiynau cyfathrebu, ac Iaith Arwyddion Prydain.
  • Cysylltu teuluoedd ag eraill yn lleol, gan adeiladu rhwydweithiau cymorth cymheiriaid gwerthfawr a pherthnasoedd cymunedol sy’n para.

Gyda'n gilydd, rydym yn creu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig lle mae teuluoedd â phlant byddar yn teimlo’n wybodus a’u bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso.

Gwasanaethau Awdioleg

Mae amrywiaeth o wasanaethau awdioleg ac adnoddau cymorth clyw ar gael ar draws De-ddwyrain Cymru i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i reoli eu clyw a chael mynediad at gyngor arbenigol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae'r Gwasanaeth Awdioleg yn darparu cymorth gydag asesiadau clyw, cymhorthion clyw, cynnal a chadw, a gwybodaeth am iechyd clyw.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae Gwasanaethau Awdioleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig cymorth arbenigol i blant ac oedolion sydd yn/wedi colli eu clyw.

Iaith Arwyddion Prydain a Chymorth Cyfathrebu

Gall dysgu Iaith Arwyddion Prydain helpu plant, pobl ifanc, aelodau o'r teulu, a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn cynnig cyrsiau ac adnoddau Iaith Arwyddion Prydain, yn amrywio o sesiynau cyflwyno i gymwysterau achrededig, sydd ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Gallwch gael mynediad at gyfleoedd dysgu a gwybodaeth am Iaith Arwyddion Prydain trwy: