Neidio i gynnwys
Young child holding their hands covered in paint in front of their face

Hyfforddiant Cymorth Radio (7 Medi)

Gwybodaeth am y cwrs

Mae dyfais clyw ychwanegol, a elwir yn gyffredin yn gymorth radio, yn helpu i leihau effeithiau sŵn cefndir, pellter ac atsain mewn lleoedd addysgol.

Mae’r system yn gweithio ochr yn ochr â chymhorthion clyw neu fewnblaniadau cochlea plentyn neu berson ifanc, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw ganolbwyntio ar synau a lleisiau pwysig, fel cyfarwyddyd athro.

O gael eu defnyddio’n effeithiol, gall cymhorthion radio wella mynediad at ddysgu, cefnogi cyfranogiad yn yr ystafell ddosbarth a chael effaith gadarnhaol ar gynnydd addysgol.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, byddwch yn:

  • Deall pwrpas a buddion technoleg cymorth radio.
  • Gallu gosod a defnyddio offer cymorth clyw’n gywir.
  • Adnabod problemau cyffredin a gwybod sut i ddatrys problemau sylfaenol.
  • Deall eich rôl wrth gefnogi dysgwr sy’n defnyddio cymorth radio.
  • Hyrwyddo arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth i gael y mynediad mwyaf at ddysgu.

Pwy fydd yn elwa o’r cwrs yma?

  • Cynorthwywyr Dysgu neu berson a enwir sy’n cefnogi dysgwyr â lefel o fyddardod
  • Athrawon
  • CADY
  • Penaethiaid

Sut i wneud cais

I ofyn am le ar y cwrs yma, cwblhewch y ffurflen

Cofrestrwch ddiddordeb yn y cwrs hwn(opens in new tab)

Manylion y cwrs

Darparwr y cwrs

Gwasanaeth Cymorth i’r b/Byddar

Dyddiad y cwrs

07/09/2026

Amser y cwrs

14:00

15:30

Lleoliad y cwrs

Ar-lein trwy MS Teams