Gwybodaeth am y cwrs
Cwrs dilynol ymarferol i’r rheiny sydd wedi cwblhau’r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Byddardod Craidd a Diwrnod Llawn. Mae’r sesiwn rhyngweithiol yma’n canolbwyntio ar droi ymwybyddiaeth o fyddardod yn arfer pob dydd, gyda phwyslais penodol ar addasu adnoddau a gweithgareddau dysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr b/Byddar yn well.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio strategaethau ymarferol, yn adolygu enghreifftiau o adnoddau hygyrch, ac yn cael cyfle i addasu eu deunyddiau eu hunain a rhannu syniadau gyda chydweithwyr i gefnogi amgylcheddau dysgu cynhwysol.
Deilliannau Allweddol
- Deall sut i ddefnyddio egwyddorion ymwybyddiaeth byddardod mewn arferion pob dydd.
- Nodi a dileu rhwystrau cyffredin i ddysgu i ddysgwyr b/Byddar.
- Addasu adnoddau dysgu i wella hygyrchedd ac ymgysylltiad.
- Datblygu strategaethau ymarferol i gefnogi cyfathrebu a chyfranogiad.
- Cynyddu hyder mewn creu amgylcheddau dysgu cynhwysol.
- Rhannu syniadau ac arfer effeithiol gyda chydweithwyr o amrywiaeth o leoliadau.
I bwy mae’r cwrs hwn?
- Athrawon a darlithwyr
- Tiwtoriaid a hyfforddwyr
- Staff cymorth dysgu
- Ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Aseswyr a darparwyr dysgu yn y gweithle
- Unrhyw un sy’n cefnogi neu sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda dysgwyr b/Byddar mewn lleoliadau addysg, hyfforddiant neu gymunedol.
